Tywydd Difrifol

Ystyr tywydd difrifol yw unrhyw agwedd ar dywydd sy'n peri risg i fywyd neu eiddo. Gall fod yn anodd ei ragfynegi a gall fod ar sawl ffurf wahanol, gan gynnwys tymereddau isel ac eira trwm, stormydd a gwyntoedd cryfion, tywydd poeth, glaw trwm a llifogydd. Gall tywydd difrifol achosi aflonyddwch sylweddol i arferion dyddiol, drwy darfu ar wasanaethau cyhoeddus, y sector preifat ac economi Cymru. Mae'n bwysig bod yn barod ar gyfer popeth pan ddaw i dywydd a chael cynllun a phecyn argyfwng yn barod.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf fel y gallwch fod yn barod ar gyfer unrhyw dywydd difrifol sydd ar ddod. Drwy eu Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Rhybuddio am Dywydd Difrifol, maent yn rhybuddio'r cyhoedd ac ymatebwyr brys o dywydd difrifol neu beryglus sydd â'r potensial i achosi perygl i fywyd neu aflonyddwch eang.

Effeithiau Tywydd Difrifol

  • Effeithio ar allu asiantaethau statudol i ymateb i ddigwyddiadau.
  • Staff yn teithio i'r gwaith.
  • Ysgolion yn cau.
  • Aflonyddwch i isadeiledd trafnidiaeth.
  • Prinder pŵer a dŵr.
  • Mwy o geir yn torri lawr.
  • Llifogydd.
  • Gwyntoedd cryfion yn symud gweddillion.
  • Cynnydd mewn trawma a faint o bobl sy'n mynd i'r ysbyty.
  • Mwy o fygythiad o anaf neu farwolaeth mewn perthynas â phobl sy'n agored i niwed.
  • Prinder bwyd a thanwydd posibl.

Sicrhewch eich bod yn barod pan fyddwch yn teithio pan fo tywydd difrifol, neu pan ragwelir tywydd difrifol.