Cymru Gydnerth

Cymru Gydnerth

Wales Resilience Logo

O dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, ffurfiodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru goncordat a sefydlodd fframwaith y cytunwyd arno ar gyfer cydweithredu rhwng y ddwy Lywodraeth. Mae'r cydweithrediad rhwng y ddau barti yn hanfodol er mwyn paratoi ar gyfer argyfwng a bydd yn golygu bod y ddau barti yn gweithio'n agos gyda'i gilydd.

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn cydgysylltu, ac mae Fforwm Cydnerth Cymru yn dwyn ynghyd ymatebwyr lleol a chyrff llywodraethol y Deyrnas Unedig.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ac y caiff ei chynnwys ym mhob neges ynghylch gwybodaeth a fydd yn ei helpu i gyflawni ei chyfrifoldebau o dan y Ddeddf.

Fforwm Cydnerth Cymru

Nod Fforwm Cydnerth Cymru yw hyrwyddo cyfathrebu da a gwella cydnerthedd ymhlith asiantaethau a gwasanaethau yng Nghymru. Gwneir hyn drwy ddarparu fforwm i Brif Swyddogion drafod materion strategol ynghylch paratoi ar gyfer argyfwng gyda Gweinidogion Cymru.

Mae'r grŵp ar waith i:

  • Greu fforwm ar gyfer arweiniad strategol ar faterion cydnerthedd sy'n effeithio ar Gymru.
  • Ystyried canllawiau polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig / Llywodraeth Cymru a rhoi cyngor iddynt ar weithredu yng Nghymru pan fo'n briodol.
  • Hwyluso trefniadau cymorth ar y cyd a chydweithio.
  • Darparu cyfarwyddyd ac arweinyddiaeth strategol i Dîm Partneriaeth Cydnerthedd Cymru a'i is-grwpiau.
  • Mapio cydnerthedd ar lefel Cymru gyfan, nodi bylchau a hwyluso gweithgarwch paratoi.
  • Mynegi, ystyried a thrafod materion cydnerthedd yng Nghymru gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
  • Cefnogi gweithio a rhannu gwybodaeth yn drawsffiniol.

Fforymau Cydnerth Lleol.

Yn ogystal â Fforwm Cydnerth Cymru, mae gan bob ardal yng Nghymru ei fforwm ei hun. Caiff y Fforymau Cydnerth Lleol hyn eu rhannu fel a ganlyn:

  • De Cymru.
  • Gwent.
  • Gogledd Cymru.
  • Dyfed Powys.

Caiff y Fforymau hyn eu cefnogi gan grwpiau cydgysylltu, is-grwpiau neu grwpiau tasgio a gorffen sydd wedi'u sefydlu i ddatblygu galluoedd amrywiol neu bennu targedau penodol i atgyfnerthu cydnerthedd lleol drwy gydweithredu amlasiantaethol.

Cynllun Ymateb Cymru Gyfan

Mae'r Cynllun Ymateb Cymru Gyfan yn darparu fframwaith er mwyn rheoli argyfwng mawr sy'n effeithio ar sawl ardal yng Nghymru, neu bob un ohonynt. Caiff y fframwaith strategol ar gyfer datblygu gallu yng Nghymru ei nodi yng nghynllun busnes Fforwm Cydnerth Cymru, a gynhyrchir bob blwyddyn. Prif amcan y cynllun busnes yw nodi'n glir y berthynas rhwng cynllunio ar gyfer argyfyngau ar lefelau lleol, Cymru a'r Deyrnas Unedig a chydgysylltu'r gwaith hwn. Mae'r cynllun busnes yn sicrhau bod y gwaith cydgysylltu ar lefel Cymru gyfan yn ychwanegu gwerth at waith a wneir ar lefelau eraill. Wrth graidd y cynllun ceir Tîm Partneriaeth Cydnerthedd Cymru, a sefydlwyd i gydgysylltu gwaith diogelwch sifil yng Nghymru.