Teithio

Mae'n bwysig bob amser gweld beth yw'r cyngor tywydd cyfredol cyn teithio mewn tywydd drwg a dim ond teithio os oes gwirioneddol raid. Edrychwch ar eich rhagolygon tywydd lleol a chenedlaethol a chael y wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion tywydd cyn i chi deithio.

Os ydych yn teithio mewn car, addaswch eich gyrru i'r tywydd a sicrhewch fod gennych eich Pecyn Teithio ar gyfer Argyfwng gyda chi fel eich bod yn barod os byddwch yn sownd. Cyn i chi deithio i unlle mewn tywydd drwg, sicrhewch fod eich ffôn symudol gyda batri llawn a bod rhywun yn gwybod faint o'r gloch y dylech gyrraedd. Os ydych yn teithio ar y trên neu'r bws, edrychwch ar-lein neu ffoniwch i weld a yw'r gwasanaethau'n dal i redeg fel nad ydych yn gadael y tŷ heb fod angen. Dylech bob amser ganiatáu mwy o amser ar gyfer eich taith.

Gall y tywydd yn y Deyrnas Unedig fod yn anrhagweladwy. Gall tywydd drwg ddod yn gyflym felly'r cyngor gorau pan geir tywydd drwg yw aros oddi ar y ffordd. Os bydd yn rhaid i chi yrru, cofiwch mai oherwydd gwall dynol y ceir 90% o ddamweiniau, felly sicrhewch eich bod yn barod ac yn gyrru yn addas at y tywydd.

Gyrru mewn Eira

Pan ddaw i baratoi eich car ar gyfer gyrru yn yr eira, mae'n bwysig clirio'r ffenestri a'r goleuadau o eira cyn i chi deithio. Dylech hefyd glirio platiau rhifau, a chlirio'r to fel na fydd yr eira'n llithro i lawr.

Pan ddaw i yrru ar ffyrdd rhewllyd ac eirllyd, gyrrwch yn araf iawn oherwydd gall rhew fod yn glytiog. Wrth ddefnyddio'r rheolaethau mae'n bwysig eu defnyddio'n ysgafn ac yn ofalus, gan yrru ar y cyflymder isaf ac yn y gêr uchaf posib, gan adael digon o le rhyngoch chi a'r cerbyd o'ch blaen bob amser.

Mae'n bwysig cael digon o le rhyngoch chi a'r cerbyd o'ch blaen; nid yw'r cyngor arferol, sef y rheol dwy eiliad, yn ddigon mewn amodau rhewllyd - gall pellteroedd brecio fod hyd at ddeg gwaith yn hwy. Byddwch yn arbennig o ofalus wrth yrru ar elltydd a throi oherwydd efallai na fydd gan y teiars ddigon o afael. Os byddwch yn mynd yn sownd mewn eira neu ar rew yna ceisiwch ddefnyddio gêr uwch i symud i ffwrdd - gall hyn roi'r tyniant sydd ei angen arnoch.

Gall eich gallu ei weld fod llawer yn is ac mae defnyddio goleuadau wedi'u gostwng yn hanfodol mewn eira sy'n disgyn. 

Gyrru mewn Glaw

Mae'n bwysig cofio y bydd y ffyrdd yn seimllyd wrth yrru yn y glaw neu ar ôl iddi fod yn bwrw. Os bydd eich cerbyd yn colli ei afael, neu'n sglefrio ar ddŵr, tynnwch eich troed oddi ar y sbardun i arafu a pheidiwch â brecio na llywio'n gyflym gan nad oes gennych unrhyw reolaeth dros y llyw na'r breciau.

Os oes rhaid i chi yrru pan fo llifogydd, peidiwch â chael eich temtio i yrru drwy lifddwr gan eich bod yn risgio gorlifo eich injan - neu waeth - mynd yn sownd os yw'r dŵr yn fwy dwfn nag yr oeddech yn ei feddwl.

Gyrru mewn Niwl

Yn ôl Rheolau'r Ffordd Fawr, mae'n rhaid i chi ddefnyddio prif lampau pan fo'n anodd gweld - yn gyffredinol, pan na allwch weld mwy na 100 metr (328 troedfedd).

Nid oes rhwymedigaeth i ddefnyddio goleuadau niwl, ond os bydd eich car mewn damwain pan fo'n anodd gweld ac nad oedd eich goleuadau niwl ymlaen, yna efallai y bydd eich yswiriwr yn holi pam. Os byddwch yn defnyddio goleuadau niwl blaen a chefn, mae'n rhaid eu diffodd pan ellir gweld yn well.

Pan fo niwl, gall y gallu i weld ddirywio mewn mater o eiliadau. Byddwch yn wyliadwrus iawn a dim ond gyrru mor gyflym ag y mae'r amodau'n eu caniatáu a sicrhewch fod mwy o bellter rhyngoch chi a'r car o'ch blaen.