Beth yw'r Peryglon?

Mae sawl gair gwahanol yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio digwyddiadau mawr o natur anffodus; mae argyfwng, digwyddiad mawr a thrychineb ymhlith y geiriau hynny a ddefnyddir. Ledled y Deyrnas Unedig, cytunir yn gyffredinol fod digwyddiad mawr yn argyfwng lle mae angen i un neu fwy o'r gwasanaethau brys, y GIG neu'r awdurdodau lleol roi trefniadau arbennig ar waith. Gall hyn gynnwys:

  • Dadleoli nifer fawr o bobl.
  • Digwyddiad difrifol sy'n effeithio ar y rhwydwaith trafnidiaeth.
  • Tywydd eithafol.
  • Damweiniau diwydiannol mawr.
  • Argyfyngau sy'n ymwneud ag iechyd.
  • Ymosodiadau gan derfysgwyr.

Mathau o Beryglon

Daw argyfyngau ar sawl ffurf; rhai naturiol a rhai bwriadol. Bydd argyfyngau o unrhyw fath yn cael effaith sylweddol ar ein bywydau bob dydd. Gall peryglon amrywio o ddamweiniau ffordd a thannau tai sy'n effeithio ar ychydig o bobl i lifogydd, tywydd difrifol a methiannau pŵer a all effeithio ar filoedd o bobl. Gall deall y peryglon gwahanol a wynebir gennym a sut y gallent effeithio arnoch eich helpu i fod yn fwy parod ar gyfer delio ag argyfwng.

Mae'r peryglon a wynebir gan y Deyrnas Unedig yn newid drwy'r amser: mae peryglon yn dod i'r wyneb a bygythiadau'n datblygu, ond mae ein gallu i ymateb i'r heriau aflonyddol a wynebir gennym yn parhau i wella. Gall y peryglon hyn fod ar sawl ffurf a chaiff pob rhan o'r wlad ei heffeithio gan beryglon gwahanol, a dyna pam fod ardaloedd gwahanol yn llunio eu cofrestr o beryglon lleol eu hunain. Gallai bod yn barod a chael cynllun ar gyfer 'beth os' fod yn arbennig o ddefnyddiol un diwrnod.

Ydych Chi'n Barod?

Gall bod yn barod wneud byd o wahaniaeth. Ydych chi'n barod pe byddai toriad pŵer, prinder dŵr neu pe byddai eich tŷ yn cael ei orlifo? Neu oes gennych chi gyflenwadau yn eich car pe byddech yn sownd yn yr eira? Gallai bod yn barod ar gyfer nifer o beryglon gwahanol neu wybod eu bod yn bodoli yn y Deyrnas Unedig eich helpu chi.