Fforwm Cydnerth Lleol

Ni ellir cynllunio ar gyfer, ac ymateb i, argyfyngau mawr heb gymorth eraill. Wedi'u sefydlu fel gofyniad Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, y Fforymau Cydnerth Lleol yw'r prif ddull ar gyfer cydweithredu/cydgysylltu amlasiantaethol ac maent yn sicrhau y caiff y dyletswyddau hynny o dan y Ddeddf y mae angen eu datblygu mewn amgylchedd amlasiantaethol eu darparu'n effeithiol.

Gyda thrychinebau'n digwydd drwy'r amser, mae angen cael cynllun ar waith i ymateb i'r argyfyngau. Pan fo argyfwng yn digwydd, bydd sawl asiantaeth wahanol yn chwarae rhan yn y broses o ymateb i'r digwyddiad.

Drwy sicrhau bod asiantaethau partner yn cydweithio, gallwn helpu i:

  • Atal y trychineb rhag gwaethygu.
  • Achub bywydau.
  • Lliniaru dioddefaint y rhai a effeithir gan y digwyddiad.
  • Sicrhau normalrwydd cyn gynted â phosibl.

Fforwm Cydnerth Lleol Gwent (GLRF)

O fewn Gwent, y GLRF yw'r prif grŵp strategol. Yn cyfarfod yn chwarterol ac yn cael ei gadeirio gan y Prif Gwnstabl, mae'r grŵp yn rhan bwysig o drefniadau diogelwch sifil lleol Gwent.

Mae'r Grŵp yn cynnwys Uwch Swyddogion o:

  • Heddlu Gwent (Prif Gwnstabl yn cadeirio'r grŵp)
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
  • Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Cyngor Sir Fynwy
  • Cyngor Sir Casnewydd
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau
  • Milwrol
  • Llywodraeth Cymru
  • Cyfleustodau

Er mwyn ei helpu i weithio, mae gan y GLRF Grŵp Cydgysylltu haen is. Mae gan y grŵp hwn aelodau o sefydliadau amlasiantaethol, swyddogion cynllunio at argyfwng sy'n unigolion profiadol hyfforddedig sydd â sgiliau ym maes cynllunio at argyfwng/cynllunio at argyfwng sifil.

At hynny, mae'r aelodau hyn yn cyfrannu at nifer o is-grwpiau sydd wedi'u sefydlu i ddatblygu galluoedd amrywiol neu bennu targedau penodol i atgyfnerthu cydnerth lleol drwy gydweithredu amlasiantaethol. Gall y grwpiau hyn hefyd alw ar ymarferwyr eraill cynllunio at argyfwng ac unigolion sydd ag arbenigedd.

Mae cynrychiolwyr o'r GLRF hefyd yn cynrychioli Gwent yn Fforwm Cymru Gydnerth (WRF) a gadeirir gan Brif Weinidog Llywodraeth Cymru.