Adran y Plant

Er na allwch baratoi eich plant ar gyfer pob peth bach yn y byd, gallwch helpu i'w haddysgu a'u paratoi ar gyfer y dyfodol drwy eu haddysgu'n ifanc. Anelir yr adran hon o Paratoi Gwent at addysgu plant mewn ffordd ddifyr, a fydd yna'n arwain atynt yn dysgu am y risgiau a wynebir yng Ngwent fel eu bod yn gwybod sut i ddelio ag argyfwng a sut i fod yn ddiogel. Mae Burt yma i arwain y plant a'u helpu i ddeall y risgiau y gallent eu hwynebu.

Rydym wedi cynnwys gweithgareddau gwahanol fel chwileiriau iddynt ddysgu wrth gael hwyl, yn ogystal â dolenni i wefannau sy'n addas i blant lle gallant ddysgu hyd yn oed mwy.

Cynnwys Eich Plentyn

Y ffordd orau o gynnwys eich plentyn yw gwneud iddynt fod â diddordeb mewn dysgu gyda gweithgareddau a gemau. Gallai hyn fod ar ffurf cael eich plentyn i gynllunio pecyn goroesi o'u hoff eitemau. Gallai hyn fod naill ai ar ffurf bag a gedwir yn ddiogel o dan y gwely er enghraifft, neu gallech gael blwch diwrnod glawog a gedwir yn llawn gweithgareddau y gellir eu gwneud dan do os bydd yn rhaid i chi aros yn y tŷ, neu weithgareddau y gallwch fynd gyda chi os cewch eich gorfodi o'ch cartref.

Gallai pecyn y plant gynnwys eitemau fel:

  • Llyfrau.
  • Creonau, pensiliau a phapur.
  • Doliau.
  • Pecyn o gardiau.
  • Gemau bwrdd / posau.
  • Tegan meddal.

Gallech hefyd ennyn diddordeb eich plentyn drwy ofyn iddynt eich helpu i greu eich pecyn argyfwng y cartref fel eu bod yn teimlo'n rhan o'r gwaith o gynllunio ar gyfer argyfwng y cartref.

Dysgu gyda Gemau

Gweithgareddau difyr i grwpiau oedran gwahanol.

Chwileiriau.

Chwilair Bod yn Barod.

Chwilair Llifogydd.

Chwilair Pecyn Argyfwng.

Chwilair Plant Ifanc.

Lliwio

Plismon
Plismones

Torri Allan

Plismon wedi'i Dorri Allan

Plismones wedi'i Thorri Allan

Hwyl ar y We

Mae ein ffrindiau yng Nghyngor Sir Essex a'r ymatebwyr brys yn yr ardal wedi creu'r wefan 'What If...?' sy'n adnodd defnyddiol a difyr ar gyfer addysgu plant gyda'r cymeriadau Ben a Molly, drwy gemau, llyfrau a phosau, sy'n dangos y cymeriadau'n dysgu am risgiau fel llifogydd ac yn dysgu beth i'w roi mewn pecyn argyfwng a beth i'w wneud os ceir llifogydd.

Dyma fwy o wefannau difyr rydym ni yn Paratoi Gwent yn eu hoffi ar gyfer dysgu. Maent yn wefannau gwych i ddysgu mwy am y risgiau y gallwn eu hwynebu:

www.dangerpoint.org.uk

www.watersafetykids.co.uk

www.firemansamonline.com/uk/

www.metoffice.gov.uk/education/kids

www.ambulance.wales.nhs.uk

www.bernie.uk.com