Cydnerthedd Cenedlaethol

Cydnerthedd Cenedlaethol

Preparing for Emergencies Logo

Diffiniad o Argyfwng

Mae Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 yn diffinio argyfwng fel a ganlyn:

"Digwyddiad neu sefyllfa sy'n bygwth difrod difrifol i les pobl rhywle yn y Deyrnas Unedig (h.y. Colli bywyd, salwch neu anaf, ynni neu danwydd, aflonyddu ar system gyfathrebu, aflonyddu ar gyfleusterau trafnidiaeth, neu aflonyddu ar wasanaethau sy'n ymwneud ag iechyd).

Digwyddiad sy'n bygwth difrod difrifol i amgylchedd rhywle yn y Deyrnas Unedig (h.y. Halogi tir, dŵr neu aer gyda mater biolegol, cemegol neu ymbelydrol, neu aflonyddu neu ddifrodi bywyd planhigion neu anifeiliaid).

Rhyfel, neu derfysgaeth, sy'n bygwth niwed i ddiogelwch y Deyrnas Unedig."

Argyfyngau Mawr

Yn ystod y 2000au cynnar, profodd y Deyrnas Unedig effeithiau nifer o argyfyngau mawr. Dangosodd y llifogydd eang a'r diffyg tanwydd yn 2000 a'r tarddiant o glwy'r traed a'r genau yn 2001, ynghyd â'r ymosodiadau gan derfysgwyr ar Efrog Newydd ar 9/11, fod angen dull mwy integredig ar gyfer cynllunio at argyfwng.

Arweiniodd yr effeithiau at adolygiad y Llywodraeth o gynllunio at argyfwng a chreu Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004. Mae'r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl yn rhannu ymatebwyr lleol yn ddau gategori, gan roi cyfres wahanol o ddyletswyddau i bob asiantaeth. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ymatebwyr gydweithredu a rhannu gwybodaeth er mwyn paratoi'n effeithlon ac yn effeithiol ar gyfer argyfyngau ac ymateb iddynt gan sicrhau y cydgysylltir yr ymateb.

Ceir dwy ran gadarnhaol yn y Ddeddf: trefniadau lleol ar gyfer diogelwch sifil (Rhan 1); a phwerau argyfwng (Rhan 2). Mae Rhan 1 y Ddeddf a rheoliadau ategol a chanllawiau statudol 'Emergency Preparedness' yn sefydlu cyfres glir o rolau a chyfrifoldebau ar gyfer y rheini sy'n rhan o'r gwaith o baratoi ar gyfer argyfwng ac ymateb iddo yn lleol.

Mae ymatebwyr Categori 1, sef yr 'Ymatebwyr Craidd' yn amodol ar gyfres lawn o ddyletswyddau diogelwch sifil.

Bydd yn ofynnol iddynt:

  • Asesu risg yr argyfyngau sy'n digwydd a defnyddio hyn i lywio cynlluniau wrth gefn.
  • Rhoi cynlluniau argyfwng ar waith.
  • Rhoi trefniadau rheoli parhad busnes ar waith.
  • Rhoi trefniadau ar waith fel bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd am faterion diogelwch sifil a chynnal trefniadau i rybuddio, hysbysu a chynghori'r cyhoedd os bydd argyfwng.
  • Rhannu gwybodaeth gydag ymatebwyr lleol eraill er mwyn gwella cydgysylltiad.
  • Cydweithredu ag ymatebwyr lleol eraill i wella cydgysylltiad ac effeithlonrwydd.
  • Rhoi cyngor a chymorth i fusnesau a sefydliadau gwirfoddol ar reoli parhad busnes (awdurdodau lleol yn unig).

Ymatebwyr Categori 2 yw'r 'cyrff cydweithredu' - yr awdurdod gweithredol iechyd a diogelwch / trafnidiaeth / cwmnïau cyfleustodau. Maent yn llai tebygol o fod yn rhan o'r gwaith cynllunio craidd, ond byddant yn rhan bwysig o ddigwyddiadau sy'n effeithio ar eu sector eu hunain.

Mae Rhan 2 y Ddeddf yn caniatáu llunio deddfwriaeth arbennig dros dro (rheoliadau mewn argyfwng) er mwyn helpu i ddelio gyda'r argyfyngau mwyaf difrifol. Mae defnyddio pwerau argyfwng yn opsiwn olaf ac ni ddylai trefniadau cynllunio lleol dybio y bydd pwerau argyfwng ar gael. Daethpwyd â Rhan 2 y Ddeddf i rym ym mis Rhagfyr 2004.