Fy Musnes

"Mae 80% o fusnesau a effeithir gan ddigwyddiad mawr yn cau o fewn 18 mis a gorfodir 90 o fusnesau sy'n colli data o drychineb i gau o fewn dwy flynedd."

Diogelu Busnes

Mae gallu diogelu eich busnes yr un mor bwysig â gallu diogelu eich cartref a'ch teulu. Er y gallai rhai argyfyngau, fel methiant yn y pŵer fod drosodd mewn ychydig oriau, gall rhywbeth fel llifogydd achosi aflonyddwch i'ch busnes am ddiwrnodau, wythnosau neu hyd yn oed fisoedd. Mae'n hanfodol i fusnes fod yn barod i oroesi argyfwng; hyd yn oed os ydych yn unig fasnachwr, mae'n rhaid ystyried diogelu eich busnes mewn unrhyw gynllun busnes.

Aflonyddu ar Fusnes

Os byddwch yn blaengynllunio, yn hytrach nag aros am rywbeth i ddigwydd, gallwch fynd yn ôl i weithio yn yr amser gorau posibl, gan atal colled bellach a chwsmeriaid yn colli ffydd ynddoch. Pan roddir cynlluniau ar waith, sicrhewch fod eich cyflogeion yn gwybod pa gynlluniau sydd ar waith os bydd rhywbeth yn digwydd.

Os ceir rhywbeth fel cyfnod o dywydd drwg, os yw'n bosibl, manteisiwch i'r eithaf ar gyfryngau cymdeithasol a sianeli cyfathrebu eraill. Mae hyn yn eich galluogi chi i gynnal cyswllt rheolaidd â chwsmeriaid, cyflenwyr a staff er mwyn helpu i oresgyn unrhyw broblemau a all godi.

Aflonyddwch Posibl

  • Digwyddiadau naturiol.
  • Lladrad neu fandaliaeth.
  • Tân.
  • Colli cyfleustodau.
  • Tarddiant afiechyd neu haint.
  • Ymosodiad gan derfysgwyr.
  • Digwyddiadau sy'n effeithio ar gyflenwadau neu dollau.
  • Ymosodiadau seiber.

Y peth allweddol ar gyfer diogelu eich busnes yw Rheoli Parhad Busnes