Fy Nghymuned

Yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf, mae Gwent wedi gweld eira trwm, llifogydd, methiant cyfleustodau a diffyg tanwydd. Mae ein prif asiantaethau'n adolygu ac yn cynllunio ar gyfer unrhyw risgiau'n barhaus, ond gall unrhyw un wneud hyn ar ffurf cydnerthu cymunedol. Mae'r bywydau sydd gennym yn dibynnu ar system gymhleth lle rydym yn dibynnu ar ein gilydd a'r isadeiledd rydym yn byw ynddo o ddydd i ddydd. Mae argyfyngau'n aml yn achosi difrod i eiddo ac isadeiledd a gall weithiau arwain at golli bywyd.

Beth yw Cydnerthu Cymunedol?

Mae cydnerthu cymunedol yn ymwneud â chymdogion a ffrindiau'n cydweithio i ddefnyddio adnoddau a dealltwriaeth leol i'w helpu eu hunain mewn argyfwng mewn ffordd sy'n ategu gwaith yr ymatebwyr brys lleol.

Bydd yn rhaid i ymatebwyr brys lleol bob amser flaenoriaethu'r rheini sydd fwyaf agored i niwed mewn argyfwng, yn enwedig pan fo bywyd mewn perygl. Bydd adegau pan gewch eich effeithio gan argyfwng ond nad yw eich bywyd mewn perygl uniongyrchol. Drwy fod yn fwy cydnerthol, gallwch chi a'ch cymuned leihau effaith argyfwng ar eich cymuned yn y byrdymor a'r hirdymor.

Mae dwy fath o gymuned - un yn seiliedig ar leoliad daearyddol, fel cymdogaethau, pentrefi, plwyfi a threfi ac un arall sy'n cydnabod pobl sy'n rhannu diddordeb cyffredin waeth ble maent yn byw. Mae'r rhain yn cynnwys grwpiau ffydd, grwpiau gwirfoddol, clybiau chwaraeon lleol neu gymdeithasau.

Gall gweithgareddau syml fel dod at eich gilydd i glirio'r eira a'r rhew o lwybrau neu gynnig help llaw i gymdogion a allai fod yn agored i niwed mewn argyfwng wneud gwahaniaeth mawr.

Effeithiau Argyfwng

Gallai argyfwng achosi:

  • Marwolaeth neu anaf.
  • Colli neu ddifrodi cartrefi, busnesau ac adeiladau cymunedol.
  • Ynysu.
  • Ffocws mawr gan y cyfryngau.

Aflonyddu:

  • Rhwydweithiau ffyrdd, rheilffyrdd, y môr neu'r awyr.
  • Rhwydweithiau trydan, ffôn dŵr neu nwy.
  • Cyflenwadau nwyddau a gwasanaethau.

Risgiau Cymunedol a Wynebir

Gall eich cymuned ddioddef nifer o risgiau gwahanol. Mae'r rhain yn cynnwys risgiau;

  • Amgylcheddol.
  • Isadeiledd.
  • Cymdeithasol.

Un o'r pethau allweddol sy'n gwneud eich cymuned yn fwy cydnerthol yw annog unigolion a theuluoedd i ystyried beth y byddent yn ei wneud mewn argyfwng. Gall hyn ategu eich cynllun argyfwng cymunedol ymhellach.