Cynllun Argyfwng Cymunedol

Mae Cynllun Argyfwng Cymunedol (CEP) yn rhoi cyngor ac arweiniad i gymuned leol cyn ac yn ystod argyfwng. Gallai datblygu cynllun gadw aflonyddwch yn isel yn y gymuned, diogelu'r rhai sydd fwyaf agored i niwed a chyflymu'r broses o fynd nôl i normalrwydd. Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r risgiau a allai effeithio ar eich cymuned a deall sut y gallech gael eich effeithio ganddynt er mwyn gwella cydnerthedd. Bydd y cynllun yn darparu fframwaith ar gyfer y rhestru systematig o fanylion cyswllt, cyfrifoldebau a gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael os bydd argyfwng.

Llunio eich Cynllun Argyfwng

Pan ddaw i lunio cynllun, dylech ystyried y canlynol er mwyn gwneud eich cynllun yn fwy effeithiol os bydd ei angen.

  • Beth yw'r risgiau posibl i'r gymuned?
  • Pwy sydd â sgiliau, dealltwriaeth, trafnidiaeth neu offer allweddol a allai helpu?
  • Pa adeilad sydd ar gael y gellir ei ddefnyddio a phwy sydd â'r allweddi?
  • Sut y caiff cysylltiadau cyfathrebu eu sefydlu er mwyn sicrhau y gellir cysylltu â phawb?
  • A oes unrhyw bobl/grwpiau hysbys sy'n agored i niwed yn yr ardal?

Bydd eich cymuned yn fwy parod i ymdopi yn ystod argyfwng ac ar ei ôl pan fo pawb yn cydweithio gan ddefnyddio eu dealltwriaeth leol a'u sgiliau unigol. Gall deall pa ofynion sydd gan y grwpiau sydd fwyaf agored i niwed mewn argyfwng wneud gwahaniaeth mawr.

Mae'n bwysig bod yn glir o'r dechrau a chynnwys cymaint o aelodau o'r gymuned â phosib i wneud unrhyw gynllun yn effeithiol. Po fwyaf y bobl sy'n gwybod beth ydyw, sut mae'n gweithio a beth yw eu rolau a'u cyfrifoldebau o fewn y cynllun, y mwyaf cydnerthol fydd eich cymuned mewn argyfwng. Sicrhewch fod cydgysylltydd sy'n gweithredu fel y pwynt cyswllt sengl ar gyfer y gwasanaethau brys a bod dirprwy a all helpu yn ei absenoldeb. Dylai'r cydgysylltydd feddu ar ddealltwriaeth eang o'r ardal leol a bod yn frwdfrydig yn ei rôl i ysgogi eraill yn y gymuned.

Cynnal eich Cynllun

Er mwyn i'ch cynllun cymunedol fod yn effeithiol, mae angen ei adolygu a'i ddiweddaru'n rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion newidiol y gymuned a sicrhau bod yr holl fanylion cyswllt a geir yn y cynllun yn gywir. I gael rhagor o gyngor, dylech ystyried siarad â chymunedau eraill sydd wedi gweithredu cynlluniau ar gyfer cydnerthu cymunedol yn llwyddiannus.

Mae angen i'r cyngor ac ymatebwyr brys eraill fod yn ymwybodol o'ch cynllun fel eu bod yn gwybod gyda phwy i gysylltu a pha gymorth y gallwch ei roi.

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar y Pecyn Cymorth Cynllun Argyfwng Cymunedol.