Datganiad Hygyrchedd

Rydym wedi gwneud pob ymdrech i wneud y wefan hon yn hygyrch i’n holl ymwelwyr waeth pa borwr neu blatfform a ddefnyddir ganddynt a pha mor gyflym yw eu cyswllt Rhyngrwyd. Fodd bynnag, rydym yn argymell defnyddio Internet Explorer 5 neu fersiwn uwch oherwydd y nodweddion hygyrchedd y gellir eu defnyddio gyda’r porwyr hyn.

Data Hygyrchedd Bysellfwrdd 

Mae "Bysellau Brys" wedi’u cynnwys i gynorthwyo defnyddwyr anabl wrth lywio trwy’r wefan. Mae bysellau brys, sef llwybrau cyflym yn y bôn, yn rhoi mynediad cyflym a rhwydd at dudalennau cyffredin heb fod angen defnyddio llygoden. Ar hyn o bryd dim ond gyda Microsoft Internet Explorer y gellir defnyddio bysellau brys ac mae eu defnyddio’n dibynnu ar y math o system weithredu sydd gennych.

Cyfrifiaduron Windows

Bydd pwyso "ALT" a’r fysell frys yn rhoi ffocws i’r ddolen benodol honno ar y dudalen. Os pwyswch return, byddwch yn mynd at y dudalen honno. 

Cyfrifiaduron Macintosh

Bydd pwyso “CTRL” a’r fysell frys yn mynd â chi’n awtomatig at y dudalen benodol honno. Y bysellau brys a ddefnyddir ar y wefan hon yw: 

  • 0 ‒ Yn ôl at yr Hafan
  • 1 ‒ Amdanom Ni
  • 2 ‒ Man Gwybodaeth
  • 3 ‒ Gyrfaoedd
  • 4 ‒ Cysylltu â Ni
  • 5 ‒ Rhyddid Gwybodaeth
  • 6 ‒ Map o’r Safle

Cynyddu Maint y Testun

Gallai’r testun ar y sgrin fod yn haws ei ddarllen i rai defnyddwyr trwy gynyddu maint y testun. I wneud hyn, mae angen i chi newid gosodiadau eich porwr.

 Os ydych yn defnyddio Microsoft Internet Explorer, ewch at y ddewislen View, dewiswch Text Size ac yna naill ai Larger neu Largest. Os ydych yn defnyddio Netscape Navigator, ewch at y ddewislen View a dewiswch Increase Font nes bod y testun yn cyrraedd y maint sy’n ofynnol.

Lawrlwytho Ffeiliau

Mae’r holl ddeunydd y gellir ei lawrlwytho ar y wefan hon ar gael mewn Fformat Dogfen Gludadwy Adobe (PDF). Er mwyn gweld y ffeiliau hyn, bydd arnoch angen Adobe Reader, rhaglen sydd ar gael i’w lawrlwytho am ddim o wefan Adobe.

I gael rhagor o wybodaeth am fynediad i ffeiliau PDF gweler Access.adobe.com, adnodd i helpu pobl a chanddynt nam ar eu golwg i weithio’n fwy effeithiol â meddalwedd Adobe® Acrobat® a ffeiliau mewn Fformat Dogfen Gludadwy (PDF) Adobe. Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am Adobe 5.0, offer trosi ar-lein, gwybodaeth ac adnoddau gan gynnwys cwestiynau cyffredin a dolenni yn ogystal â ffeiliau i’w lawrlwytho.  

Os ydych yn cael anhawster lawrlwytho unrhyw un o’r adnoddau sydd ar gael o’r wefan hon mae croeso i chi gysylltu â ni. Byddai’n dda gennym ddod i drefniant arall ac anfon yr wybodaeth y gofynnwch amdani dros e-bost neu drwy’r post.