Llifogydd

Yng Nghymru, mae un o bob chwe eiddo mewn perygl o lifogydd. Mae tair prif ffynhonnell llifogydd: arfordirol, afon a dŵr arwyneb. O'r ffynonellau hyn, llifogydd arfordirol sydd â'r potensial i gael yr effaith fwyaf. Gall lefelau llanw gormodol achosi i amddiffynfeydd arfordirol ac aberoedd gael eu trechu neu eu torri. Gall llifogydd afon a dŵr arwyneb gael ei achosi gan ormod o law. Mae llifogydd dŵr arwyneb yn digwydd pan fod gormod o law yn gorlethu gallu ardal i ddraenio a phan na all draeniau ffyrdd ymdopi. Mae llawer o fuddsoddiad wedi'i wneud mewn cynlluniau lliniaru llifogydd (a elwir yn gyffredinol yn amddiffynfeydd llifogydd) i leihau effeithiau pob math o lifogydd yng Nghymru. Gall pobl hefyd fod yn barod a diogelu eu cartrefi gydag amddiffyniad rhag llifogydd.

Rheoli Perygl Llifogydd Lleol

Ym mis Ebrill 2010 derbyniodd y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr gydsyniad brenhinol. Rhan annatod o'r Ddeddf yw sicrhau rheolaeth well sy'n fwy cynhwysfawr o beryglon llifogydd ar gyfer pobl, cartrefi a busnesau.

Yng Nghymru mae gan Lywodraeth Cymru y cyfrifoldeb cyffredinol am bob mater sy'n ymwneud â llifogydd ac erydiad arfordirol, gan gynnwys pennu'r polisi cenedlaethol ar berygl llifogydd ac erydiad arfordirol.

Fodd bynnag, mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn cydnabod nad yw'n bosibl i un sefydliad  ddarparu'r ystod lawn o wasanaethau rheoli llifogydd ac arfordiroedd. Felly, mae'r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar bob awdurdod rheoli peryglon llifogydd i gydweithredu â'i gilydd mewn perthynas â rheoli peryglon llifogydd.

Yn lleol, mae'r Ddeddf yn rhoi cyfrifoldeb ar Awdurdodau Lleol yng Ngwent (fel y Prif Awdurdodau Llifogydd Lleol), i ddatblygu, cynnal, cymhwyso a monitro strategaeth ar gyfer rheoli peryglon llifogydd lleol (Strategaeth Leol). Bydd y Strategaeth Leol yn ffurfio'r fframwaith lle bydd gan gymunedau fwy o gyfle i leisio eu barn ar benderfyniadau rheoli peryglon lleol. Ar y cyd â'r Strategaeth Genedlaethol, bydd y Strategaethau lleol yn annog rheoli peryglon llifogydd yn fwy effeithiol drwy alluogi pobl, cymunedau, busnesau a'r sector cyhoeddus i gydweithio.

Paratoi ar gyfer Llifogydd

Gall llifogydd ddigwydd yn gyflym, felly gall paratoi ymlaen llaw leihau'r difrod a'r aflonyddwch a achosir gan lifogydd.

  • Holwch a allwch gael rhybuddion llifogydd am ddim wedi'u hanfon i'ch ffôn, ar ffurf neges testun neu e-bost.
  • Ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru i gael y rhybuddion diweddaraf am lifogydd.
  • Sicrhewch fod gennych gynllun llifogydd ar waith i ddiogelu eich hun, eich teulu, eich cartref a'ch busnes.
  • Os gallwch fynd at deulu neu ffrindiau pe byddech yn cael eich gorfodi o'ch cartref, gwnewch drefniadau nawr. Bydd hyn yn rhan allweddol o'ch cynllun llifogydd personol.
  • Gwnewch yn siŵr fod eich pecyn argyfwng yn barod.
  • Sicrhewch fod eich yswiriant yn cwmpasu llifogydd. Holwch os yw'n disodli eitemau a ddifrodir am rai newydd a p'un a oes terfyn ar atgyweiriadau.

Os Ceir Llifogydd

  • Sicrhewch ddiogelwch eich teulu a chi'ch hun.
  • Dilynwch eich cynllun llifogydd i ddiogelu eich cartref neu'ch busnes.
  • Diffoddwch eich cyflenwad nwy / trydan.
  • Rhowch eich gorsaf radio lleol ymlaen ar radio batri neu un y gallwch ei weindio i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau.
  • Dylech ddiogelu popeth y gallwch drwy symud anifeiliaid anwes, eiddo gwerthfawr, eitemau sentimental a dogfennau pwysig i dir uwch lle bydd yn fwy diogel.
  • Rhowch blygiau yn y sinciau / baths neu hambyrddau lefel isel a rhowch bwysau arnynt fel na fydd y dŵr yn llifo nôl.
  • Dilynwch gyngor Dŵr Cymru ar ddiogelwch y dŵr.

Dylech fod yn barod i weithredu'n gyflym a mynd i rywle diogel. Rhowch ddiogelwch pobl yn gyntaf a gwrandewch ar gyngor gan yr heddlu a'r gwasanaethau brys. Cofiwch mai poeni am eich diogelwch chi maen nhw.