Iechyd

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld nifer o achosion o afiechyd yn effeithio ar Gymru; y frech goch yn 2013 a’r pandemig ffliw moch yn 2009.  

Beth yw Ffliw Pandemig?

Mae’r ffliw yn salwch anadlol sy’n gysylltiedig â haint gan firws y ffliw. Mae’r symptomau’n aml yn cynnwys cur pen, gwres, peswch, dolur gwddw, a chyhyrau a chymalau poenus. Yn ystod y gaeaf y mae’r ffliw i’w weld amlaf ac mae fel arfer yn cyrraedd uchafbwynt rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth.

Bob blwyddyn, mae’r ffliw tymhorol yn achosi amrywiaeth o effeithiau yn ystod gaeafau olynol ac yn ystod rhai blynyddoedd mae’n rhoi straen ddwys ar wasanaethau iechyd a gofal  cymdeithasol ac yn achosi i lawer fod yn absennol o’u gwaith ac ysgolion.

Yn wahanol i ffliw tymhorol arferol sy’n digwydd pob gaeaf, gall ffliw pandemig ddigwydd unrhyw adeg o’r flwyddyn. Ceir pandemig pan fo firws newydd yn ymddangos sy’n gallu lledaenu trwy’r boblogaeth gyfan.

Ffliw Moch

Roedd y pandemig ffliw moch byd-eang yn 2009 yn straen newydd o’r firws ffliw H1N1 ac o ganlyniad gwnaeth Sefydliad Iechyd y Byd gyhoeddi pandemig ar 11 Mehefin 2009. Gwnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru amcangyfrif bod tua 10 y cant o’r boblogaeth wedi cael y firws dros y cyfnod hwn.

Mae gan bobl a chanddynt ffliw moch fel arfer wres uchel (dros 38°C) a gallant hefyd gael cyhyrau poenus, dolur gwddw neu beswch sych. Mae’r symptomau’n debyg iawn i fathau eraill o ffliw tymhorol. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwella cyn pen wythnos hyd yn oed heb driniaeth arbennig. Cysylltwch â’ch meddyg teulu os byddwch yn credu bod gennych ffliw moch ac rydych yn poeni.

Pe byddai argyfwng o glefyd heintus difrifol, mae’n debygol y byddai’r holl adnoddau’n cael eu defnyddio i’r eithaf ac mae’r effaith ar iechyd a gofal cymdeithasol yn debygol o fod yn enfawr. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Byrddau Iechyd yn cydweithio â phartneriaid Fforymau Lleol Cymru Gydnerth i ddatblygu trefniadau ar y cyd ar gyfer gwybodaeth iechyd cyhoeddus yn y gymuned leol. 

Cadw’n Iach

Os ydych yn pryderu am ffliw pandemig mae nifer o gamau y gallwch eu cymryd:

  • Cadwch yn iach – Mae ffordd o fyw iach yn amddiffyniad gwych yn erbyn y ffliw ac anhwylderau eraill.
  • ‘Ei Ddal. Ei Daflu. Ei Ddifa.’ ‒ Gorchuddiwch eich trwyn a’ch ceg wrth besychu neu disian. Cariwch hancesi papur, defnyddiwch nhw, taflwch nhw a golchwch eich dwylo i gael gwared ar y germau.
  • Ffrind mewn angen – Os cewch y ffliw, sicrhewch fod rhywun ar gael y gallwch ei ffonio i gasglu eich meddyginiaeth, bwyd a chyflenwadau eraill.
  • Paratowch a sicrhewch fod gennych gyflenwad o feddyginiaeth annwyd a ffliw ‘dros y cownter’ i helpu i leddfu’r symptomau.
  • Cadwch lygad am arweiniad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a dilynwch yr arweiniad hwn. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am faterion iechyd yng Nghymru ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.