Clefydau Anifeiliaid

Gall clefydau anifeiliaid gael effeithiau economaidd a chymdeithasol mawr. Y clefydau sy’n achosi’r pryder mwyaf yw’r rhai sy’n heintus iawn, y rhai a allai achosi cyfraddau marwolaeth uchel ymysg da byw, y rhai a allai heintio bodau dynol neu’r rhai nad ydynt ar hyn o bryd yn bresennol yn y Deyrnas Unedig. Clefydau nad ydynt yn filheintiol yw’r rhai na ystyrir yn gyffredinol eu bod yn gallu cael eu trosglwyddo i fodau dynol, a chlefydau milheintiol yw’r rheini y gellir eu trosglwyddo’n naturiol rhwng anifeiliaid asgwrn cefn a bodau dynol.

Rydym wedi gweld dros 14 achos o glefydau egsotig dros y 10 mlynedd diwethaf gan gynnwys clwy’r traed a’r gennau, ffliw adar a thafod glas. Yr achos o glwy’r traed a’r gennau yn 2000 oedd un o’r ffactorau allweddol a arweiniodd at Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, oherwydd ei effaith enfawr ar yr economi.

Mae gan Gymru ddiwydiant da byw ffyniannus ac mae’n hanfodol diogelu’r diwydiant, bywoliaeth ffermwyr ac economi Cymru rhag achosion o glefydau egsotig. Mae’n hanfodol bod unrhyw glefyd yn cael ei nodi, ei reoli a’i ddileu’n gyflym. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithredu i atal clefydau rhag cyrraedd y gadwyn fwyd trwy:

  • Fonitro symudiad anifeiliaid.
  • Goruchwylio milfeddygol.
  • Sicrhau na chaiff anifeiliaid na chig o ardaloedd heintiedig eu mewnforio i Gymru.  

Mae’r dull sylfaenol fwy neu lai'r un peth ar gyfer unrhyw glefyd:

  • Cadw heintiau allan.
  • Nodi heintiau’n gyflym ac yn gynnar.
  • Stopio heintiau rhag lledaenu.
  • Cael gwared ar heintiau a / neu ddatblygu rhaglenni i reoli’r broblem.

Mae Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid Prydain Fawr ar waith er mis Mehefin 2004 i wella iechyd a lles anifeiliaid ac i amddiffyn iechyd y cyhoedd rhag clefydau anifeiliaid. Mae gan  achosion difrifol o glefydau anifeiliaid a’r polisïau rheoli a ddefnyddir i’w hatal oblygiadau andwyol eang i lawer o bobl y tu hwnt i’r amlwg, ac effeithiau uniongyrchol ar iechyd, lles a chynhyrchiant anifeiliaid.

Mae’r Strategaeth yn nodi sut y dylai ceidwaid anifeiliaid:

  • Gynnal anifeiliaid iach.
  • Cynnal lefelau addas o les anifeiliaid.
  • Atal a rheoli clefydau endemig.
  • Adnabod symptomau a rhoi gwybod am glefyd hysbysadwy.
  • Atal unrhyw glefyd rhag lledaenu.
  • Sicrhau lefelau digonol o stocmonaeth.
  • Sicrhau bod sgiliau a lefelau cymhwysedd yn briodol.

Effaith Clefydau Anifeiliaid            

Gall clefydau anifeiliaid effeithio’n fawr ar ardal. Rhai o’r sgil-effeithiau yw:

  • Difrod i’r economi amaethyddol leol.
  • Difa / gwaredu carcasau anifeiliaid ar raddfa fawr.
  • Ffermwyr a gweithwyr fferm yn colli bywoliaeth.
  • Risgiau iechyd i weithwyr fferm. 

Canlyniadau Clefydau Anifeiliaid

Rhai o ganlyniadau clefydau anifeiliaid yw:

  • Effeithiau iechyd seicolegol hir dymor i ffermwyr.
  • Cynnydd yng nghostau bwyd i ddefnyddwyr.
  • Sgil-effaith ar dwristiaeth a diwydiannau gwasanaeth eraill megis arlwyo.
  • Difrod i fusnesau na ellir byth gwneud iawn amdano.

Beth y gall Ffermwyr ei wneud?

  • Mae pob perchennog yn gyfrifol am iechyd a lles yr anifeiliaid yn eu gofal ac mae angen iddynt ddeall a darparu ar gyfer eu hanghenion corfforol a lles i gynnal arferion da o ran atal a rheoli clefydau (bioddiogelwch).
  • Bydd stocmonaeth da a bod yn wyliadwrus yn cynyddu’r siawns o ganfod clefydau ymysg da byw. Dylai ffermwyr sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r arwyddion sylfaenol a fyddai’n eu rhybuddio o’r angen i roi gwybod am glefyd. 
  • Dylid gofalu am anifeiliaid sâl yn syth a dylid cael cyngor gan filfeddyg os nad yw’r anifail yn ymateb i’r gofal. Dylai anifeiliaid sâl gael eu cadw ar wahân mewn lle addas gyda deunydd gorwedd sych a chyfforddus.
  • Os datgenir achos o glefyd, dilynwch unrhyw arweiniad gan y llywodraeth i amddiffyn da byw ac i gyfyngu ar ledaeniad y clefyd. 

Gall Defra gynnig rhagor o gyngor ar glefydau anifeiliaid i’r rhai sy’n poeni, ac mae gan Lywodraeth Cymru gynllun wrth gefn ar waith ‒ Cynllun Wrth Gefn Llywodraeth Cymru ar gyfer Clefydau Anifeiliaid Egsotig – ar gyfer delio ag achosion o’r fath.