Pecyn Teithio ar gyfer Argyfwng

Os byddwch yn mynd yn sownd yn eich car am unrhyw reswm, mewn tywydd oer neu boeth, mae angen i chi fod yn barod. Drwy gadw dim ond rhai eitemau sylfaenol yn eich car, gallai helpu os cewch eich oedi neu os byddwch yn sownd. Wrth deithio, dylech bob amser sicrhau bod eich ffôn symudol gyda batri llawn - os byddwch yn teithio'n aml, mae'n werth cael gwefrydd y gellir ei ddefnyddio yn y car.

  • Fflashlamp a batris sbâr - neu fflashlamp y gellir ei weindio.
  • Unrhyw feddyginiaeth y mae angen i chi ei gymryd yn rheolaidd.
  • Pecyn cymorth cyntaf.
  • Atlas ffordd / Sat Nav.
  • Siaced adlewyrchol.
  • Arwydd rhybudd adlewyrchol.
  • Bwyd a diod a fydd yn para.
  • Gwifrau cyswllt (os oes gennych rai'n barod).

Os cewch eich dal yn eich car yn ystod tywydd oer iawn, fe'ch cynghorir i gario'r eitemau ychwanegol canlynol yn eich car:

  • Crafwr rhew a dadrewydd.
  • Digon o ddillad a blancedi cynnes i chi ac unrhyw deithwyr.
  • Rhaw.
  • Bwyd a thermos gyda diod boeth ynddo.
  • Sbectol haul - gall llewyrch yr eira fod yn ddisglair.